Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deisebau


Lleoliad:

Fideogynhadledd drwy Zoom

Dyddiad: Dydd Llun, 13 Medi 2021

Amser: 10.00 - 11.21
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
12428


O bell

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau o’r Senedd:

Jack Sargeant AS (Cadeirydd)

Luke Fletcher AS

Joel James AS

Buffy Williams AS

Tystion:

Staff y Pwyllgor:

Gareth Price (Clerc)

Mared Llwyd (Ail Glerc)

Steffan Lewis (Dirprwy Glerc)

Samiwel Davies (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

</AI1>

<AI2>

2       Deisebau Newydd

</AI2>

<AI3>

2.1   P-06-1172 Gwahardd tân gwyllt rhag cael ei werthu i'r cyhoedd.

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd fod hwn yn faes pryder i Lywodraeth Cymru, a chytunodd i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o bryderon y deisebydd, ac i gau'r ddeiseb.

</AI3>

<AI4>

2.2   P-06-1174 Mae angen atal Llywodraeth Cymru a grwpiau cyhoeddus rhag gwneud Cymru yn Genedl Noddfa.

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i nodi bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymgynghori ynghylch Cynllun Cenedl Noddfa, ac roedd yr adroddiad yn dangos cefnogaeth sylweddol i'r dull gweithredu hwn. Daeth y Pwyllgor i'r casgliad hefyd nad oedd angen cymryd unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb hon a chytunodd i'w chau.

</AI4>

<AI5>

2.3   P-06-1175 Stopiwch y cyfnodau atal byr yn ystod gwyliau hanner tymor.  Dyma'r unig seibiannau y caniateir i staff addysgu eu cael.

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd yr anawsterau yr oedd hyn yn eu hachosi i bobl yn y sector. Nododd y Pwyllgor fod cyfnodau atal byr yn fesur brys i fynd i'r afael â risgiau i iechyd y cyhoedd, a chytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

</AI5>

<AI6>

2.4   P-06-1176 Y Siarter Urddas i ysbrydoli pob dinesydd i ddod yn llysgennad dros Gymru.

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i nodi'r ymateb gan Lywodraeth Cymru, i ddiolch i'r deisebydd am godi syniad diddorol a phwysig, a chau'r ddeiseb.

</AI6>

<AI7>

2.5   P-06-1177 Darparu cynhyrchion mislif yn rhad ac am ddim i bob person sy’n cael mislif yng Nghymru

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i nodi ymgynghoriad Llywodraeth Cymru sydd ar ddod ar y Cynllun Gweithredu Strategol ar Urddas Mislif ac i annog y deisebydd i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad fel ffordd wych o fynd â'r ymgyrch hon ymhellach. Wrth wneud hynny cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i'r deisebydd am godi mater mor bwysig, ac ychwanegodd fod yr Aelodau yn cefnogi'r ddeiseb yn llawn, a chau'r ddeiseb. Staff y pwyllgor i sicrhau bod y deisebydd yn cael manylion am yr ymgynghoriad pan fydd yn dechrau.

</AI7>

<AI8>

2.6   P-06-1178 Prydau ysgol am ddim i bob disgybl yng Nghymru.

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i anfon sylwadau'r deisebydd at y Gweinidog wrth iddo lunio adolygiad, a gofyn a fyddai modd i’r adolygiad gynnwys costau a manteision darparu prydau ysgol am ddim i bawb.

</AI8>

<AI9>

2.7   P-06-1180 Cynyddu’r addysg a'r wybodaeth sydd ar gael yn rhwydd am gyffuriau yn ysgolion uwchradd Cymru.

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd bwysigrwydd y materion a godwyd. Roedd y Pwyllgor yn croesawu cyflwyno’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Llesiant penodol, a'r adnoddau a ddyrannwyd i Raglen Ysgol Heddlu Cymru, a chytunwyd i ddiolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb.

</AI9>

<AI10>

3       Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

</AI10>

<AI11>

3.1   P-05-895 Etifeddiaeth Rosa: Dylid cyflwyno cynllun i helpu pobl i gael hawl i ofal milfeddygol ar gyfer eu hanifeiliaid anwes.

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru i ddarganfod a yw'r Llywodraeth yn bwriadu bwrw ymlaen â'r gwaith hwn.

</AI11>

<AI12>

3.2   P-05-1003 Mynnu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol nawr ynghylch gwaredu mwd wedi’i halogi’n radiolegol yn nyfroedd Cymru.

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a chytunodd i ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol Cymru yn gofyn pam nad yw wedi gwneud yn gyhoeddus gais y Sefydliad Rheolaeth Forol (MMO), a gofyn iddo roi'r dogfennau a'r ohebiaeth mewn ffeil gyhoeddus ar unwaith; a gofyn am ymateb i sylwadau a chwestiynau'r deisebwyr.

</AI12>

<AI13>

3.3   P-05-912 Cynorthwyo teuluoedd sy’n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl.

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a nododd fod y ddadl a drefnwyd o'r blaen wedi'i gohirio oherwydd y pandemig. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes yn gofyn am ail-drefnu dadl yn y Cyfarfod Llawn ar y cyfle cyntaf.

</AI13>

<AI14>

3.4   P-05-1035 Dylid caniatáu i bartneriaid genedigaeth fod yn bresennol adeg sganiau, dechrau esgor, yn ystod yr enedigaeth ac ar ôl yr enedigaeth.

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a chytunodd fod y newidiadau y mae'r deisebydd yn galw amdanynt wedi'u cynnwys yn y canllawiau diwygiedig, ac roedd yn cydnabod hefyd y bydd hyn yn dibynnu ar asesiadau risg i adlewyrchu amgylchiadau lleol. Cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd ac i gau’r ddeiseb.

</AI14>

<AI15>

3.5   P-05-1045 Dylai penderfyniadau ar y cyd ac adolygu cynlluniau gofal iechyd meddwl misol fod yn ofyniad cyfreithiol.

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a dderbyniwyd a chytunwyd i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd i ofyn iddo ystyried canolbwyntio ar gymorth iechyd meddwl yn ei flaengynllun gwaith, gan amlinellu'r pryderon a godwyd gan y deisebydd.

</AI15>

<AI16>

3.6   P-05-1062 Rhoi'r gorau i'r prawf rt-PCR i brofi ar gyfer COVID-19, gan nad yw'n addas i'r diben.

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd i nodi bod Llywodraeth Cymru wedi darparu ei rhesymeg dros ddefnyddio profion RT-PCR, a chytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

</AI16>

<AI17>

3.7   P-05-1138 Profion COVID-19 wythnosol ar gyfer staff sy'n gofalu am bobl ag anghenion iechyd meddygol cymhleth.

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a dderbyniwyd a nododd fod y pryderon a godwyd bellach wedi cael sylw, a chytunodd i ddiolch i'r deisebydd am godi'r mater a chau'r ddeiseb.

</AI17>

<AI18>

3.8   P-05-1133 Dylid addasu maes llafur hyfforddiant athrawon i gynnwys Hyfforddiant Trawsnewidiol a Deallusrwydd Emosiynol.

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a dderbyniwyd a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Weinidog y Gymraeg ac Addysg gan dynnu sylw at bryderon a chwestiynau'r deisebwyr, a gofyn sut y gallai'r deisebydd gyfrannu at gynllunio'r proffesiwn addysgu yn y dyfodol.

</AI18>

<AI19>

3.9   P-05-1135 Cyllid wedi'i dargedu ar gyfer canolfannau addysg awyr agored preswyl, sydd bellach yn methu â gweithredu am 12 mis.

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a chytunwyd nad oedd fawr ddim arall y gallai'r Pwyllgor ei wneud ar hyn o bryd, a nododd y dylai'r Aelodau lleol ystyried y mater hwn yn awr, a chytunwyd i roi manylion i'r deisebydd ar sut i gysylltu â'i Aelod(au) lleol. Felly, cytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

</AI19>

<AI20>

3.10P-05-949 Arbed yr Hen Ysgol Ganolradd i Ferched y Bont-faen rhag ei dymchwel.

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae wedi bod yn rhan o'r ymgyrch hon o'r blaen

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog newydd er mwyn darganfod ei farn ar y mater hwn, a gofyn a oes ganddo unrhyw wybodaeth newydd i'w rhannu.

</AI20>

<AI21>

3.11P-05-1073 Sefydlu ac adeiladu cangen newydd o Amgueddfa Cymru sy’n canolbwyntio ar ran Cymru mewn trefedigaethedd

Datganodd Luke Fletcher AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n adnabod y deisebydd.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a chytunwyd i ysgrifennu yn ôl at Lywodraeth Cymru i ofyn a fyddai’n ystyried ail-leoli archif Tiger Bay mewn lleoliad mwy hygyrch i'r cyhoedd. ac i geisio cael ymateb i'r cynnydd a wnaed o ran cydnabod a dathlu hanes pobl dduon yng Nghymru.

</AI21>

<AI22>

3.12P-05-1086 Dylid creu Amgueddfa Genedlaethol ar gyfer Hanes a Threftadaeth Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Cymru.

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a chytunwyd i ysgrifennu yn ôl at Lywodraeth Cymru i ofyn a fyddai’n ystyried ail-leoli archif Tiger Bay mewn lleoliad mwy hygyrch i'r cyhoedd, ac i ofyn am ymateb i'r cynnydd a wnaed o ran cydnabod a dathlu hanes pobl dduon yng Nghymru.

</AI22>

<AI23>

3.13P-05-1069 Arbed y tir fferm a'r caeau gwyrdd yn Cosmeston

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd nad oedd llawer o gamau pellach y gallai eu cymryd ar y mater, ac felly cytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

</AI23>

<AI24>

3.14P-05-856 Gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr masnachol 3ydd parti yng Nghymru

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a dderbyniwyd a nododd fod Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 wedi'u pasio gan y Senedd ym mis Mawrth 2021. Felly llongyfarchodd y Pwyllgor yr ymgyrchwyr, a chytunodd i gau'r ddeiseb.

</AI24>

<AI25>

3.15P-05-915 Galwad am well gorfodaeth o ffermydd cŵn bach yng Nghymru.

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a nododd fod Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 wedi'u pasio gan y Senedd ym mis Mawrth 2021. Felly llongyfarchodd y Pwyllgor yr ymgyrchwyr, a chytunodd i gau'r ddeiseb.

</AI25>

<AI26>

3.16P-05-939 Gosod embargo ar unwaith ar drwyddedau bridio cŵn newydd, ar adnewyddu trwyddedau ac ar geisiadau cynllunio nes bod y rheoliadau'n addas i’r diben a nes bod modd eu gorfodi.

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a dderbyniwyd a nododd fod Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 wedi'u pasio gan y Senedd ym mis Mawrth 2021. Felly llongyfarchodd y Pwyllgor yr ymgyrchwyr, a chytunodd i gau'r ddeiseb.

</AI26>

<AI27>

3.17P-05-1068 Caniatáu cyfarfodydd ymbellhau cymdeithasol mewn gerddi preifat i ddilyn y wyddoniaeth ac osgoi teimlo’n ynysig.

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a nododd fod y camau y gofynnwyd amdanynt yn y ddeiseb bellach yn digwydd o dan Lefel 0. Cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb. Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor hefyd i nodi ei sylwadau ychwanegol yn ymwneud â'r broses ddeisebau, a chytunodd y bydd y Pwyllgor yn ystyried y rhain wrth iddo ddatblygu ei raglen waith.

</AI27>

<AI28>

3.18P-06-1191 Dylid cael gwared ar fesurau cadw pellter cymdeithasol ym mhob priodas yng Nghymru yr haf hwn ar ôl 15 Gorffennaf 2021

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a chydymdeimlodd â'r rhai sy'n cynllunio priodasau. Nododd y Pwyllgor fod y camau y gofynnwyd amdanynt yn y ddeiseb bellach yn digwydd o dan Lefel 0. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebwyr am godi’r mater hwn.

</AI28>

<AI29>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 5 ar agenda’r cyfarfod hwn.

Derbyniwyd y cynnig.

</AI29>

<AI30>

5       Blaenraglen waith

Ystyriodd y Pwyllgor sut yr oedd am weithredu o ran ei Flaenraglen Waith, a gofynnodd i'r tîm clercio baratoi papur ffurfiol yn nodi opsiynau ar gyfer cynnal rhagor o waith manwl ar amrywiaeth o ddeisebau yn y dyfodol.

 

Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am ganiatâd i symud ei slot bore Llun i brynhawn Llun, gan ei fod yn rhagweld y byddai cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn ailddechrau.

</AI30>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>